Llyfryn byr i helpu’ch eglwys i gyflwyno neges Cristnogaeth i bobl ifanc yn eu harddegau yw Stori Wir. Ysgrifennwyd Stori Wir gan Pete Brown, sy’n weinidog ieuenctid ac yn efengylydd, ac mae’n gwahodd pobl ifanc i feddwl am chwe achlysur yn yr Efengylau pryd y mae Iesu’n cael dylanwad ar bobl eraill. Mae’n cynnwys:
Iaith weledol gyfoethog a chyfoes.
Elfennau rhyngweithiol, yn cynnwys cwestiynau i fyfyrio arnynt a lle i ysgrifennu nodiadau.
Fformat hwylus lle mae darnau o’r Beibl yn cael eu cyflwyno mewn adrannau arbennig mewn llyfryn mewnol pwrpasol.
Mae Stori Wir yn anrheg ddelfrydol i bobl ifanc sydd heb gysylltiad â chapel nac eglwys, rhai sy’n chwilio, a Christnogion newydd sy’n awyddus i wybod mwy am neges Cristnogaeth. Mae’n wych ar gyfer grwpiau ieuenctid, gwersylloedd haf a digwyddiadau efengylu ac yn ddelfrydol ar gyfer:
ei roi i bobl ifanc sy’n chwilio i’w ddefnyddio ar eu pen eu hunain;
ei ddarllen gyda pherson ifanc neu gyda’r teulu cyfan;
ei ddefnyddio gyda grŵp bach yn yr eglwys neu mewn clwb ysgol.
See More Religion & beliefs: general interest
No one has written a review for 'Stori Wir'
Why not be the first to share your opinion?
Pete Brown is a youth worker based at Cornerstone Church, Nottingham. He has many years of experience introducing young people to Jesus.
More about Pete Brown